Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 4 Gorffennaf 2017
Amser:
08.30 - 08.47
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC (Cadeirydd) Jane Hutt AC Paul Davies AC Rhun ap Iorwerth AC Gareth Bennett AC |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Christopher Warner, Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Helen Carey, Llywodraeth Cymru Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Rhuanedd Richards, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd |
Anfonodd y Dirprwy Lywydd ei hymddiheuriadau oherwydd ei bod yn cynrychioli Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn Senedd y Tynwald ar Ynys Manaw.
Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod cyn eu cyhoeddi.
Dydd Mawrth
· Rhoddodd Jane Hutt wybod i'r pwyllgor y byddai datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant: y wybodaeth ddiweddaraf yn dilyn y tân yn Nhŵr Grenfell yn cael ei ychwanegu at agenda'r Cyfarfod Llawn heddiw:
· Rhoddodd Jane Hutt wybod i'r pwyllgor y byddai trefn y datganiadau a ganlyn yn cael ei newid:
- Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith: Polisi a Deddfwriaeth yr Amgylchedd Hanesyddol (45 munud)
- Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon: Y Gronfa Triniaeth Newydd – Adroddiad Cynnydd (45 munud)
· Byddai'r Cyfnod Pleidleisio yn cael ei gynnal ar ôl yr eitem olaf o fusnes.
Dydd Mercher
· Cytunodd y Rheolwyr Busnes y byddai'r Cyfnod Pleidleisio yn cael ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 19 Gorffennaf 2017 -
· Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid: Diwygio Cyllidol – Gwersi o'r Alban (30 munud)
Dydd Mercher 20 Medi 2017 –
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar recriwtio meddygol (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
· Dewisodd y Pwyllgor Busnes gynnig ar gyfer dadl ar 12 Gorffennaf:
NNDM6348
David Melding (Canol De Cymru)
Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru)
Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Julie Morgan (Gogledd Caerdydd)
Hefin David (Caerffili)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi mai Cymru yw'r unig un o'r gwledydd cartref sydd heb ganolfan rhewmatoleg bediatrig arbenigol.
2. Yn nodi bod tua 400 o blant yn ne Cymru yn unig sy'n dioddef o Arthritis Idiopathig Ieuenctid.
3. Yn cydnabod yr angen am ganolfan rhewmatoleg bediatrig amlddisgyblaeth yng Nghymru.
4. Yn nodi bod Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru yn cynnal adolygiad cynhwysfawr o wasanaethau pediatrig arbenigol yng Nghymru.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi galwadau gan Gofal Arthritis, y Gymdeithas Arthritis Gwynegol Genedlaethol a Chymdeithas Brydeinig Rhewmatoleg ar gyfer creu canolfan rhewmatoleg bediatrig amlddisgyblaeth benodedig lwyr yng Nghymru.
· Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gynnal y Ddadl Aelod Unigol nesaf yn ystod tymor yr hydref.
Cadarnhaodd y Rheolwyr Busnes y dyddiadau a ganlyn ar gyfer toriad hanner tymor y gwanwyn a thoriad y Pasg 2018, a chytunodd ar y dyddiadau dros dro a ganlyn ar gyfer hanner tymor y Sulgwyn a thoriad yr haf 2018.
Hanner tymor y gwanwyn 2018 (1 wythnos)
|
Dydd Llun 19 Chwefror 2018 – Dydd Sul 25 Chwefror 2018
|
Toriad y Pasg 2018 (3 wythnos)
|
Dydd Llun 26 Mawrth 2018 – Dydd Sul 15 Ebrill 2018 |
*Hanner tymor y Sulgwyn 2018 (1 wythnos)
|
Dydd Llun 28 Mai 2018 – Dydd Sul 3 Mehefin 2018 |
*Toriad yr Haf 2018 (8 wythnos)
|
Dydd Llun 23 Gorffennaf 2018 – Dydd Sul 16 Medi 2018 |
*Dyddiadau dros dro i'w cadarnhau gan y Pwyllgor Busnes.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor i gais gan y Pwyllgor Safonau i gynnal cyfarfod ychwanegol ddydd Mawrth 18 Gorffennaf 2017.
Nododd y Rheolwyr Busnes y llythyr.
Nododd y Rheolwyr Busnes y llythyr.
Trafododd y Rheolwyr Busnes strwythur newydd ar gyfer Rhaglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru, a fydd yn cael ei dreialu yn ystod y Cyfarfod Llawn ar 27 Mehefin, a chytunodd i ddychwelyd at y trefniadau gyda'r bwriad o ddiwygio'r Rheolau Sefydlog yn ystod tymor yr hydref – ar yr un pryd ag y maent yn adolygu cwestiynau, cynigion deddfwriaethol gan Aelodau a newidiadau eraill a gyflwynwyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Bydd yr Ysgrifenyddiaeth yn paratoi opsiynau i'r Rheolwyr Busnes eu trafod.